|
Yn 2004 cafodd BMRB ei gomisiynu gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i ymgymryd ag arolwg o sgiliau llythrennedd a rhifedd – yn Saesneg – oedolion rhwng 16 a 65 oed yng Nghymru.
Seilir canfyddiadau’r arolwg ar brofion llythrennedd a rhifedd a gwblhawyd gan 2,554 o oedolion ac ar brofion sillafu a TGCh dilynol a gwblhawyd gan 1,503 o’r un bobl.
Mae’r adroddiad isod yn crynhoi data o’r profion llythrennedd, rhifedd a sillafu. Nid yw’r data TGCh ar gael eto a chaiff hwn ei bostio yn ddiweddarach.
Canlyniadau pennawd:
- Lefel Mynediad 1 Llythrennedd 4%, Rhifedd 7%
- Lefel Mynediad 2 Llythrennedd 3%, Rhifedd 20%
Lefel Mynediad 3 Llythrennedd 18%, Rhifedd 26%
- Lefel 1 Llythrennedd 37%, Rhifedd 25%
- Lefel 2 Llythrennedd 38%, Rhifedd 22%
Lefel 1 yw’r lefel cyflawniad darged ar gyfer y Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol. Mae’r arolwg hwn yn nodi yng Nghymru bod:
- nifer yr oedolion â sgiliau llythrennedd sy’n is na Lefel 1 yn 450, 000 [25%]
- nifer yr oedolion â sgiliau rhifedd sy’n is na Lefel 1 yn 980,000 [53%]
|