|
Casgliad o stribedi brawddeg yw Brawddegau ar gyfer Llwyddo ar gyfer mamau, tadau, brodyr neu chwiorydd hyn, gofalwyr, athrawon, yn enwedig athrawon SIY a SSIE, neu rywun sy’n helpu plentyn iau i ddysgu mewn mwy nag un iaith. Gellir llwytho’r brawddegau hyn i lawr a’u lamineiddio i’w defnyddio mewn llawer o wahanol leoliadau ac mewn llawer o wahanol ffyrdd. Gobeithio y byddant yn eich ysbrydoli i greu eich stribedi brawddeg eich hunain i roi adborth cadarnhaol a chymell dysgwyr o bob oed.
1. Fe wnaethoch chi hynny’n arbennig o dda. Sut gallwn ni ei wella?
2. Roeddwn i wir yn hoffi’r ffordd y gwnaethoch chi rannu hynny.
3. Beth wnawn ni nesaf?
4. Beth am i ni roi cynnig ar rywbeth arall?
5. Beth am ei wneud fel hyn?
6. Sut gallaf fi helpu fy mhlentyn?
7. Rwy’n falch iawn gyda fy nghynnydd. Rwy’n teimlo’n fwy hyderus nawr.
8. Mae gweithio gyda phartner yn help mawr.
9. Sut gallwn ni ddarganfod mwy? Pwy allwn ni ei holi?
10. Beth am i ni chwilio mewn llyfr? Neu ar y Rhyngrwyd?
11. Dyna ateb da. Sut gwnaethoch chi ei ddatrys?
12. Beth am feddwl am hynny eto?
13. Beth ydych chi’n ei feddwl?
14. Beth ydych chi’n ei hoffi am y llun? Pam ydych chi’n hoffi hwn?
15. Beth welwch chi yma?
16. A yw hyn yn gwneud i chi deimlo’n hapus neu’n drist? Pam?
17. Sut mae e/hi yn teimlo yn eich barn chi?
18. A yw hyn yn eich atgoffa o rywbeth? Beth y mae’n eich atgoffa chi ohono?
19. A yw’n eich atgoffa chi o rywun? Pwy y mae’n eich atgoffa chi ohono?
20. Dydw i ddim yn siwr sut i wneud hyn. Allwch chi fy helpu i os gwelwch yn dda? Diolch.
|