Sgiliau Sylfaenol yn ac ar gyfer y Gweithle Sgiliau ar Waith
Nod y prosiect:
“cynyddu gallu’r sector cyflogi i fynd i’r afael â’r diffyg mewn sgiliau sylfaenol ymhlith:-
- Pobl wedi’u cyflogi yn y gweithle
- Pobl ddi-waith sydd eisiau ymuno â’r farchnad lafur”
Mae Consortia’r Sector Sgiliau Sylfaenol yn cynnwys cynrychiolwyr o 6 Chyngor Sgiliau Sector – Gofal, Glanhau, Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig, Tir Seiliedig, Gweithgynhyrchu, Peirianneg; a phum rhanddeilad partner:-
- Asiantaeth Datblygu Sgiliau Sector Cymru
- TUC
- Gyrfa Cymru
- UFI Cymru/Learn
Direct
- Y Ganolfan Byd Gwaith
Beth yw sgiliau sylfaenol?
“y gallu i ddarllen, ysgrifennu a siarad yn Gymraeg neu yn Saesneg, a’r gallu i ddefnyddio mathemateg ar lefel sy’n angenrheidiol i weithredu a symud ymlaen yn y gwaith ac yn y gymdeithas yn gyffredinol”
Goblygiadau ar gyfer gwaith
Mae oedolion â phroblemau sgiliau sylfaenol:-
- Yn fwy tebygol o fod mewn gwaith o radd isel â thâl isel;
- Ddwywaith yn fwy tebygol o fod wedi colli eu swydd gyntaf neu wedi cael eu diswyddo ohoni;
- Hyd at bum gwaith yn fwy tebygol o fod yn ddi-waith neu allan o’r farchnad lafur;
- Bedair gwaith yn fwy tebygol o ddioddef diweithdra tymor hir.
Mae’r rhai sydd ynghlwm yn y prosiect yn elwa:-
- Y dewis i gwblhau’r achrediad City & Guilds Lefel 2 9297 llawn;
- Arwain oedolion sy’n ddysgwyr at ddarpariaeth sgiliau sylfaenol priodol;
- Helpu gydag asesiadau anffurfiol a/neu wneud profion am anghenion sgiliau sylfaenol;
- Cefnogi dysgwr sgiliau sylfaenol o dan gyfarwyddyd uniongyrchol a phresenoldeb athro/-rawes sgiliau sylfaenol cymwysedig;
- • Bod yn rhan o rwydwaith Cymru gyfan o gefnogwyr sgiliau sylfaenol.
Am fwy o wybodaeth am y prosiect, neu, am gyngor, arweiniad a chefnogaeth ar gyfer eich cam nesaf, cysylltwch â:-
Rhian Mathias
Uwch Swyddog Cefnogi Datblygiad
Ffôn: 0207 4407777
E-bost: rhian.mathias@niace.org.uk
|