|
Ar 22 Ebrill 2005 cyhoeddod Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes y bydd £40 miliwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i gefnogi gweithgareddau a amlinellir yn Geiriau’n Galw - Rhifau’n Cyfri, ail gam y Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Genedlaethol i Gymru sy’n darparu ar gyfer pob oedran.
Yn dilyn hyn, bydd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a Llywodraeth y Cynulliad yn cytuno ar gynllun gweithredu ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ni chytunwyd ar y manylion eto ond bydd y Strategaeth yn adeiladu ar fentrau a fu’n llwyddiannus yn ystod y cam cyntaf. Bydd y Strategaeth yn parhau i weithredu ar draws yr ystod lawn o oedrannau ac ym mhob sector. Caiff manylion Cynllun Cyflwyno 2005-2006 eu postio cyn gynted ag y byddant yn cael eu cytuno.
|