English
Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru
Hafan Amdanom ni Adnoddau Rhannu arfer
mewn  
Blynyddoedd Cynnar Cynradd Uwchradd Ôl 16 Traws Cyfnod
Tendrau
Newyddion
Holl newyddion
Cynhadledd Cymru - Datganiad i'r Wasg 08 02 08
Athrawon yn datblygu diddordebau siarter
Gwybodaeth am y safle
Cysylltwch â ni
Cymorth
Map o'r Safle
 Hygyrchedd
Site accessibility Hygyrchedd Safle
Text toggle Cynyddu maint y testun
Prynwch Gyhoeddiadauon
(cyfleuster Saesneg yn unig)
Yn derbyn Visa, Mastercard, Switch a Solo.

< Dychwelid i'r olwg safonol

Amdanom ni > Newyddion > Wales conference
Cynhadledd Cymru - Datganiad i'r Wasg 08 02 08

‘Siarad gyda’n Gilydd’ – er mwyn cynorthwyo plant a rhieni i fwynhau datblygu sgiliau iaith a rhif a pharatoi plant bach ar gyfer dechrau yn yr ysgol – dyma thema cynhadledd blynyddoedd cynnar Sgiliau Sylfaenol Cymru sydd i’w gynnal heddiw (Dydd Gwener 8 Chwefror) yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.

Yn ystod y diwrnod fe fydd siaradwyr y gynhadledd – sy’n cynnwys y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau John Griffiths – yn trafod syniadau a mentrau polisi newydd i ymrwymo rhieni i gynorthwyo i ddatblygu sgiliau iaith a rhifedd eu plant.

Er mwyn cynorthwyo i dorri’r cysylltiad rhwng tlodi plant, amddifadedd a chyrhaeddiad addysgiadol isel, mae Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru’n cynnwys ymroddiad i sicrhau bod pob plentyn bach yn barod ar gyfer dysgu pan maent yn dechrau yn yr ysgol. Yn ystod ei anerchiad fe fydd y Dirprwy Weinidog yn dathlu llwyddiant rhaglenni Chwarae a Iaith (LAP) a Chwarae a Rhif (NAP) wrth dargedu rhieni a phlant rhwng 0-3 oed. Yn ogystal bydd y Dirprwy Weinidog yn siarad yngl?n â mentrau polisi perthynol fel rhaglen Dechrau’n Deg (a gafodd ei gyflwyno yn 2007) a’r Cyfnod Sylfaen newydd (sydd i gychwyn yn hydref 2008) wedi ei gynllunio i ddarparu’r cwricwlwm iawn ar gyfer rhai rhwng 3-7 mlwydd oed.

Siaradwyr eraill yn y digwyddiad – yn cynnwys Sian Wyn Siencyn, Pennaeth Blynyddoedd Cynnar yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin; Alice Sharp, Rheolwr Gyfarwyddwr Chwarae drwy Brofiad; a Neil Griffiths, siaradwr, awdur llyfr lluniau a datblygwr y ‘Sach stori’ – yn darparu trosolwg o’r ymchwil cyfredol a barn yngl?n â’r hyn sy’n gweithio wrth geisio ymrwymo rhieni a phlant.

Disgwylir i dros 400 o bobl fod yn bresennol. Ymhlith y cyfranogion bydd arbenigwyr sy’n ymwneud â Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru - gan gynnwys staff AALl, ymgynghorwyr blynyddoedd cynnar a rhifedd, a chydlynwyr Chwarae a Iaith (LAP) a Chwarae a Rhif (NAP). Bydd gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn addysg blynyddoedd cynnar a chynrychiolwyr o gymdeithasau allweddol proffesiynol ymhlith gweddill y cyfranogion.

Wrth wneud sylwadau yngl?n â’r gynhadledd dywedodd John Griffiths, y Dirprwy Weinidog: ‘Eleni’n unig disgwylir tua 9,000 o rieni a phlant i gymryd rhan yn Chwarae a Iaith a 5,000 yn Chwarae a Rhif. Bu’r ddwy raglen yn llwyddiannus dros ben yn addysgu rhieni yngl?n â’r rôl maent yn eu chwarae yn natblygiad eu plant.’

‘Rydym yn adeiladu ar y llwyddiant hwn yn awr ac yn helpu i gefnogi rhieni ac ysgolion fel ei gilydd drwy amrywiaeth o raglenni fel Dechrau’n Deg a’r Cyfnod Sylfaen, sydd i’w lansio ym mis Medi eleni. Gyda’i gilydd bydd y rhaglenni hyn yn gymorth i roi’r sail orau i blant Cymru ar gyfer dysgu a llwyddiant yn y dyfodol.’

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Valerie McBurney yn Swyddfa Gwasg yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol. Ffôn 020 7440 7788, ffôn symudol: 07979 240936, e-bost: valeriem@basic-skills.co.uk.

Nodiadau at y Golygyddion

Lansiodd Llywodraeth Cynulliad Cymru y Strategaeth Sgiliau Sylfaenol gyntaf - Y Wlad sy’n Dysgu - yn 2001. Er hynny bu’n goruchwylio darpariaeth rhaglenni i gynorthwyo i leihau’r nifer o blant ac oedolion sy’n ymdrechu â darllen, ysgrifennu a defnyddio rhif.
Mae ail Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad - Geiriau’n Galw -Rhifau’n Cyfri - yn symud yr agenda a sefydlwyd yn Y Wlad sy’n Dysgu yn ei flaen ac mae ganddi’r un nodau sylfaenol a’r Strategaeth gyntaf. A’r rheiny yw:

  • bod ein holl blant ifanc yn cael eu paratoi ar gyfer dysgu pan fyddant yn dechrau’r ysgol
  • ein bod yn parhau i leihau nifer y plant sy’n cael trafferth i ddarllen, ysgrifennu neu ddefnyddio rhifau wrth adael yr ysgol gynradd
  • bod llai o bobl ifanc yn parhau i gael trafferthion â sgiliau sylfaenol wrth adael yr ysgol
  • ein bod yn lleihau nifer yr oedolion sydd â sgiliau sylfaenol gwael yn sylweddol.

Er mwyn cael copi o Geiriau’n Galw – Rhifau’n Cyfri ewch i www.dysgu.cymru.gov.uk.

Mae Sgiliau Sylfaenol Cymru, sef rhan o Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn gyfrifol am oruchwylio gweithrediad y Strategaeth Genedlaethol - Geiriau’n Galw - Rhifau’n Cyfri. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Sgiliau Sylfaenol Cymru ar: www.sgiliau-sylfaenol-cymru.org

Cynhadledd ‘Siarad Gyda’n Gilydd’

Ymhlith y siaradwyr fydd:

Siân Wyn Siencyn- Mae Sian yn Bennaeth ar Ysgol Addysg yn y Blynyddoedd Cynnar yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin a gafodd ei sefydlu ganddi yn 2000. Ei diddordebau arbenigol yw datblygiad iaith plant, dwyieithrwydd cynnar a theorïau am ddysgu.

s.w.siencyn@trinity-cm.ac.uk

Neil Griffiths (B.Ed) (B.Add.) - Cyn Bennaeth ar Ysgol Gynradd yw Neil ac ef yw lluniwr cysyniad Sach Stori sydd wedi derbyn canmoliaeth ryngwladol. Bu’n darlithio’n helaeth ledled y byd ac ar hyn o bryd mae’n ddarlithydd ar ei liwt ei hun ac yn ddarparwr hyfforddiant mewn swydd. Mae Neil wedi ysgrifennu llyfr llwyddiannus dros ben ar chwarae creadigol, yn gydawdur cwricwlwm meithrin ac wedi gwneud cyfraniadau bywiog i nifer o gynlluniau darllen.

neil@cornertoloearn.co.uk

Alice Sharp -Mae gan Alice nifer o flynyddoedd o brofiad yn y sector blynyddoedd cynnar - gan gychwyn arni drwy redeg meithrinfa yn Brighton ac yn Glasgow ac wedyn ymddiddori mewn gweithio gyda phlant ag anghenion ychwanegol a darlithio. Mae Alice yn awdures tri llyfr ac yn cyfrannu at gylchgronau Nursery World a Nursery Education. Yn ychwanegol at hyn mae’n rhedeg Wonderbox, cwmni adnoddau addysgiadol ac yn Rheolwr Gyfarwyddwr ar Experiential Play, cwmni hyfforddi sy’n arbenigo mewn gweithio gyda staff, rhieni ac awdurdodau lleol sy’n ymwneud â darparu chwarae a symbylu plant rhwng 0 ac 8 mlwydd oed. www.experientialplay.com

Dechrau’n Deg, a gychwynnwyd yn 2007, ac sy’n darparu pecyn o ddarpariaethau sy’n cynnig dechreuad gwell mewn bywyd i blant o ardaloedd difreintiedig (mae’r darpariaethau hyn yn cynnwys: gofal plant rhad ac am ddim, rhan amser, o ansawdd uchel ar gyfer plant dwy flwydd oed; cynyddu cefnogaeth ymwelydd iechyd; cymorth i rieni; rhaglenni Chwarae a Iaith estynedig; a sach llyfr rhad ac am ddim ar gyfer pob plentyn).

Gan adeiladu ar brofiad cynllun Cymorth yng Nghymru, gwerthusiad Sure Start yn Lloegr, ac ymarfer gorau rhyngwladol, mae Dechrau’n Deg yn rhan bwysig o becyn cydlynol Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi plant rhwng 0 a 10 mlwydd oed.

Mae’r Cyfnod Sylfaen a’i gwricwlwm a’i drefniadau cysylltiedig ag asesu ar gyfer plant rhwng 3–7 mlwydd oed yn cael ei gyflwyno ym mis Medi 2008. Mae ei gyflwyniad yn dilyn dogfen ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru: ‘Y Wlad sy’n Dysgu: Cyfnod Sylfaen 3–7 mlwydd oed’ (Chwefror 2003), ei ymatebion ymgynghorol dilynol a’r Cynllun Gweithredu, a dogfen y Cynulliad, ‘Iaith Pawb’ (Chwefror 2003).

Roedd dogfen ymgynghorol Llywodraeth Cynulliad Cymru yn amlygu tystiolaeth ymchwil i gefnogi cyflwyno a datblygu cwricwlwm priodol. Mae’r dystiolaeth ymchwil hon yn awgrymu nad yw plant yn cael unrhyw fantais o addysgu ffurfiol eang nes eu bod oddeutu 6 neu 7 mlwydd oed, yn unol â’u datblygiad cymdeithasol a gwybyddol. Canlyniad posibl i gyflwyniad cynharach fyddai i rai plant dangyflawni a chyrraedd safonau is. Dylai cwricwlwm Cyfnod Sylfaen priodol sy’n eang, yn gytbwys, yn berthnasol ac yn wahaniaethol er mwyn cyrraedd anghenion datblygiadol pob plentyn, fod o gymorth i atal tangyflawni a chodi safonau’n gyffredinol.

Yn ogystal, mae’r dystiolaeth ymchwil yn nodi’n glir bod gan y profiadau a gafodd y plant cyn iddynt ddechrau addysg pan yn 3 blwydd oed effaith fawr ar eu datblygiad. Mae cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn annog meithrin a hyrwyddo cysylltiadau cadarnhaol rhwng y cartref a’r darparwyr gofal ac addysg.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 8 February 2008
 
  Fersiwn argraffedig  Fersiwn argraffedig  Ebostiwch y dudalen  Ebostiwch y dudalen

< Dychwelid i'r olwg safonol

 Hafan    Amdanom ni    Adnoddau    Rhannu arfer  
 Blynyddoedd Cynnar   Cynradd   Uwchradd   Traws Cyfnod   Ôl 16  
Hawlfraint Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol 2004