English
Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru
Hafan Amdanom ni Adnoddau Rhannu arfer
mewn  
Blynyddoedd Cynnar Cynradd Uwchradd Ôl 16 Traws Cyfnod
Tendrau
Newyddion
Holl newyddion
Cynhadledd Cymru - Datganiad i'r Wasg 08 02 08
Athrawon yn datblygu diddordebau siarter
Gwybodaeth am y safle
Cysylltwch â ni
Cymorth
Map o'r Safle
 Hygyrchedd
Site accessibility Hygyrchedd Safle
Text toggle Cynyddu maint y testun
Prynwch Gyhoeddiadauon
(cyfleuster Saesneg yn unig)
Yn derbyn Visa, Mastercard, Switch a Solo.

< Dychwelid i'r olwg safonol

Amdanom ni > Newyddion > Athrawon yn datblygu diddordebau siarter
Athrawon yn datblygu diddordebau siarter

Western Mail, 20 Medi 2007

Ymgasglodd athrawon o bob cwr o Gymru yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe er mwyn bod ymhlith y rhai cyntaf i gymryd rhan yn y cynllun peilot Athro Siartredig y bu disgwyl mawr amdano sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (CyngACC).

Bydd y cynllun peilot, a fydd yn cael ei redeg dros gyfnod dwy flynedd ysgol, yn profi pob un o’r modiwlau sy’n cael eu haddysgu a fydd yn ffurfio’r sylfaen ar gyfer y meincnod Athro Siartredig.

Mae cynllun peilot y modiwl cyntaf sy’n cael ei addysgu, o’r enw Datrys wrth Drafod, wedi ennyn diddordeb enfawr ymhlith athrawon, meddai CyngACC.

Mae’r cwrs yn cael ei gynnal gan Athrofa Addysg Uwch Gogledd Ddwyrain Cymru (NEWI), Athrofa Addysg Uwch Abertawe (SIHE) a Sgiliau Sylfaenol Cymru.

Mae’r modiwl Datrys wrth Drafod yn cynnwys 150 awr o ddysgu ac yn agored i arweinwyr canol a/neu athrawon dosbarth. Bydd yn archwilio siarad a gwrando mewn ysgolion cynradd ac uwchradd a’r cyswllt rhwng datblygu sgiliau siarad a dealltwriaeth disgyblion.

Dywedodd Hayden Llewellyn, dirprwy brif weithredwr CyngACC, “Rydyn ni’n falch iawn o’r diddordeb sy’n cael ei ddangos yn y cynllun peilot Statws Athro Siartredig, sy’n arwain at fodiwl cyntaf sydd wedi’i or-danysgrifio.

“Nod y modiwl Datrys wrth Drafod yw rhoi cyfle ar gyfer datblygiad proffesiynol pellach i’r rheiny sy’n cymryd rhan mewn maes y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddo.”

Dywedodd Debbie Spiers, athrawes Wyddoniaeth yn Ysgol Coed Cae yn Llanelli, sy’n un o blith 13 o athrawon a ddewiswyd i gymryd rhan yn y cynllun peilot, “Bydd hyn yn gyfle i mi ailedrych ar y pethau sylfaenol a dysgu strategaethau a fydd yn helpu llawer o’m disgyblion i ddysgu.”

Dywedodd Mike Chapman, athro yn Ysgol Gynradd Oakfield yn Y Barri,“Mae’r cynllun peilot Statws Athro Siartredig yn cynnig datblygiad proffesiynol gwerthfawr a fydd yn gwella ac yn datblygu arferion athrawon yn yr ystafell ddosbarth.”

I gael mwy o wybodaeth am y modiwl hwn a modiwlau DPP sgiliau sylfaenol eraill, gweler datganiad i’r wasg Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru neu ein tudalen DPP wrth Addysgu Sgiliau Sylfaenol.

Cyhoeddwyd yr erthygl ar: 20 September 2007
 
  Fersiwn argraffedig  Fersiwn argraffedig  Ebostiwch y dudalen  Ebostiwch y dudalen

< Dychwelid i'r olwg safonol

 Hafan    Amdanom ni    Adnoddau    Rhannu arfer  
 Blynyddoedd Cynnar   Cynradd   Uwchradd   Traws Cyfnod   Ôl 16  
Hawlfraint Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol 2004