|
Perswadio’r datgysylltiedig i wella’u sgiliau…
Mae’r Gynhadledd Genedlaethol yn fforwm i’r Dirprwy Weinidog ac arbenigwyr drafod y materion
Denu’r datgysylltiedig – ac annog pobl i wella’u sgiliau sylfaenol beth bynnag fo’u hoed – oedd thema Cynhadledd Flynyddol yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a gynhaliwyd ddydd Gwener 22 Mehefin 2007 yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd.
Nod y gynhadledd oedd edrych ar argymhellion ymchwil presennol a’r modd y gellir eu rhoi ar waith ac ennyn diddordeb pobl sydd wedi eu datgysylltu oddi wrth ddysgu a gwaith.
Lansiwyd y gynhadledd gan John Griffiths, y Dirprwy Weinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Iaith Gymraeg. Mae gan y Dirprwy Weinidog gyfrifoldeb penodol am yr agenda sgiliau ac amlinellodd gyflawniadau’r Strategaeth Sgiliau Sylfaenol i Gymru yn ogystal â’r heriau i’w hwynebu yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Yn dilyn y Dirprwy Weinidog, rhoddodd amrywiaeth o siaradwyr – gan gynnwys Wendy Young AEM, Arolygydd Arwain yn Estyn, Helen Casey o’r Ganolfan Ymchwil a Datblygu Genedlaethol (NRDC), John Graystone Prif Weithredwr Fforwm a Philip Garner, Athro Addysg ym Mhrifysgol Northampton – drosolwg o ymchwil cyfredol a chipolwg ar yr hyn sy’n gweithio.
Yna, gwahoddwyd cynrychiolwyr i drafod materion allweddol yn ystod sesiynau ‘Rhoi Syniadau ar Waith’ a ganolbwyntiai ar: Y Blynyddoedd Cynnar ac Addysg Deuluol; y Cwricwlwm Amgen mewn Ysgolion; y Cwricwlwm Amgen ar gyfer addysg Ôl-16 ac Oedolion; a Grwpiau sydd mewn Perygl.
Mynychodd dros 200 o bobl. Roedd y cynrychiolwyr yn cynnwys arbenigwyr sy’n ymwneud â Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth Cynulliad Cymru – gan gynnwys staff AALl, uwch staff o Ysgolion a’r rheiny sy’n gweithio gydag oedolion. Roedd cynrychiolwyr eraill yn cynnwys gweithwyr addysg proffesiynol sy’n gweithio mewn addysg bellach ac addysg uwch, y blynyddoedd cynnar, undebau llafur ac yn y sectorau Gwirfoddol a Chymunedol.
Wrth roi sylwadau ar y gynhadledd, dywedodd y Dirprwy Weinidog John Griffiths: “Mae denu’r datgysylltiedig yn broblem allweddol sy’n gysylltiedig â chyfiawnder cymdeithasol. Nid oes gan lawer o bobl yng Nghymru'r sgiliau y mae eu hangen arnyn nhw, ac o’r herwydd, rhaid i ni edrych ar ffyrdd o ailennyn diddordeb plant a phobl ifanc a meddwl yn ddychmygus am y modd y gallwn ni ennyn brwdfrydedd ymhlith oedolion i wella’u sgiliau.”
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Valerie McBurney yn Swyddfa’r Wasg yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol. Ffôn 020 7440 7788, symudol: 07979 240936, e-bost: valeriem@basic-skills.co.uk.
Nodiadau i Olygyddion
Lansiwyd y Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol gyntaf – Y Wlad sy’n Dysgu – gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yn 2001. Ers hynny, bu’n goruchwylio cyflwyno rhaglenni i helpu i leihau nifer y plant a’r oedolion sy’n cael trafferth â darllen, ysgrifennu a defnyddio rhif.
Mae ail Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Llywodraeth y Cynulliad – Geiriau’n Galw – Rhifau’n Cyfri – yn gweithredu’r agenda a nodir yn Y Wlad sy’n Dysgu ac mae’n cynnwys yr un nodau sylfaenol â’r Strategaeth gyntaf, sef:
- y dylai pob plentyn ifanc fod yn barod i ddysgu pan fydd yn dechrau’r ysgol;
- y dylid lleihau ymhellach nifer y plant sy’n gadael yr ysgol gynradd ac sy’n cael trafferth â darllen, ysgrifennu a defnyddio rhif;
- y dylai llai o bobl ifanc fod yn gadael addysg orfodol yn cael trafferth â sgiliau sylfaenol o hyd; ac
- y dylid lleihau nifer yr oedolion sydd â sgiliau sylfaenol gwael yn sylweddol.
I weld copi o Geiriau’n Galw – Rhifau’n Cyfri, gweler:
http://www.learning.wales.gov.uk/pdfs/c1505-words-talk-e.pdf
Mae’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn gyfrifol am oruchwylio gweithredu’r Strategaeth Genedlaethol – Geiriau’n Galw – Rhifau’n Cyfri – ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru. Mae’r Asiantaeth wedi ymrwymo i ddatblygu, lledaenu a dod o hyd i arfer da mewn llythrennedd, iaith a rhifedd.
Sefydlwyd Y Ganolfan Ymchwil a Datblygu Genedlaethol (NRDC) gan y DfES yn rhan o Sgiliau am Oes, y strategaeth genedlaethol ar gyfer gwella sgiliau llythrennedd a rhifedd ymhlith oedolion. Mae NRDC wedi ymroi i ymchwilio i lythrennedd, rhifedd, SSIE a TGCh oedolion gyda’r bwriad o helpu i wella ansawdd addysgu a dysgu er mwyn i bobl ifanc ac oedolion allu datblygu yn eu bywyd a’u gwaith. Am ragor o wybodaeth, gweler: www.nrdc.org.uk/
fforwm yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n cynrychioli’r 23 o golegau addysg bellach (AB) a dau sefydliad AB yng Nghymru. Fe’i crëwyd yn 1993 yn elusen addysgol a chwmni cyfyngedig trwy warant. Mae fforwm yn darparu ystod o wasanaethau i’w aelodau gan gynnwys rhwydweithiau, cynadleddau, ymchwil, ymgynghoriaeth a rhannu arfer da. Mae hefyd yn gweithio’n agos ag ystod eang o bartneriaid mewn addysg a hyfforddiant ôl-16. Trwy fforwm, cynrychiolir colegau ar bwyllgorau, gweithgorau amrywiol a grwpiau eraill sy’n ffurfio polisi mewn addysg a hyfforddiant ôl-16 a dysgu gydol oes ac yn dylanwadu arno. Am ragor o wybodaeth, gweler: www.fforwm.ac.uk/
Estyn yw swyddfa Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Mae’n annibynnol o, ond yn cael ei ariannu gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 104 Deddf Llywodraeth Cymru 1998. Mae Estyn yn gyfrifol am arolygu ystod eang o gyrff addysg a rhoi cyngor i’r Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg. I gael gwybod mwy am Estyn, gweler: www.estyn.gov.uk
|