| Cynhadledd Cymru - Datganiad i'r Wasg 08 02 08 |
Cynhadledd Siarad gyda’n Gilydd yn amlygu rôl rhieni wrth baratoi plant ar gyfer dechrau ysgol
. ‘Siarad gyda’n Gilydd’ – er mwyn cynorthwyo plant a rhieni i fwynhau datblygu sgiliau iaith a rhif a pharatoi plant bach ar gyfer dechrau yn yr ysgol – dyma thema cynhadledd blynyddoedd cynnar Sgiliau Sylfaenol Cymru sydd i’w gynnal heddiw (Dydd Gwener 8 Chwefror) yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
...mwy |
| Athrawon yn datblygu diddordebau siarter |
| Western Mail, 20 Medi 2007
Ymgasglodd athrawon o bob cwr o Gymru yn Athrofa Addysg Uwch Abertawe er mwyn bod ymhlith y rhai cyntaf i gymryd rhan yn y cynllun peilot Athro Siartredig y bu disgwyl mawr amdano sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru.
...mwy |
| Y Gweinidog Addysg Yn Croesawu Sgiliau Sylfaenol Cymru |
Heddiw [dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007] estynnodd y Gweinidog dros Addysg, Diwylliant a’r Gymraeg, Carwyn Jones, groeso i is-adran Cymru o’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i Lywodraeth Cynulliad Cymru. ...mwy |
| Cynhadledd Sgiliau Sylfaenol 2007 |
|
Denu’r datgysylltiedig – ac annog pobl i wella’u sgiliau sylfaenol beth bynnag fo’u hoed – oedd thema Cynhadledd Flynyddol yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a gynhaliwyd ddydd Gwener 22 Mehefin 2007 yng Ngwesty’r Hilton yng Nghaerdydd.
...mwy |
| Cyhoeddwyr Cymraeg a'r gyfres Quick Reads / Stori Sydyn yn cael eu canmol am eu hymdrechion |
|
Roedd Y Lolfa, Gwasg Gomer, B-DAG, @ebol, Accent Press a Continuum (Network Educational Press) ymhlith rhestr enillwyr Gwobrau Llyfrau Sgiliau Sylfaenol – a gyhoeddwyd ar 30 Mawrth mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, gyda Wyre Davies o BBC Cymru yn llywyddu.
...mwy |
| Dathlu rhagoriaeth mewn busnes |
Yn gynharach y mis hwn anrhydeddwyd pum cwmni Adduned Cyflogwr yng Ngwobrau Busnes Cyflawniad Cymru y Daily Post. Yn un o’r digwyddiadau y mae disgwyl mawr amdano yn y calendr busnes, mae’r digwyddiad gala hwn yn dathlu rhagoriaeth mewn busnes mewn cwmnïau o bob maint sydd wedi eu lleoli yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru. ...mwy |
| Gwnewch i Ddiwrnod Rhifau'r NSPCC gyfrif yn ystod Wythnos Mathemateg Cymru |
Bydd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a NSPCC Cymru/Wales yn dathlu Wythnos Mathemateg Cymru trwy lansio Diwrnod Rhifau 2006. ...mwy |
| Cyhoeddi penodiad Cyfarwyddwr Interim ar y Cyd i arwain yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol |
|
Penodwyd Pat Collard a Carol Taylor yn Gyfarwyddwr Interim ar y cyd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, o 1 Medi, yn ôl cyhoeddiad Bwrdd Rheoli’r Asiantaeth heddiw.
...mwy |
| Datganiad gan y Bwrdd |
Mae Alan Wells, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth, wedi derbyn diswyddaeth wirfoddol. ...mwy |
| Dathliadau yn Honeywell |
|
Ar 19 Gorffennaf, 2006 roedd yna ddathliad dwbl yn Honeywell, Llanelwy. Derbyniodd y cwmni Wobr Adduned Cyflogwr yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a derbyniodd aelodau o’i weithlu dystysgrifau am gymwysterau a enillwyd trwy’r Wobr.
...mwy |
| Cerys Matthews yn troi cân enwog '1-2-3' yn £-£-£ ar gyfer elusen blant |
|
Mae'n ffordd ryfedd o wneud sengl, ond mae dehongliad Cerys Matthews o'r glasur gofiadwy, '1-2-3' – a recordiwyd yn arbennig ar gyfer ymgyrch rifedd ddiweddar Llywodraeth Cynulliad Cymru ledled Cymru – nawr ar gael i'w llwytho i lawr gyda'r holl elw yn mynd tuag at ymgyrch DIM MWY yr NSPCC i roi diwedd ar greulondeb i blant.
...mwy |
| Dechreuwch ddarllen - yn Gymraeg - gyda 'Stori Sydyn' |
|
Mae Stori Sydyn, sef cyfres arloesol o straeon ffuglen a ffeithiol byr a hygyrch, wedi'u hanelu at bobl nad ydynt yn ddarllenwyr hyderus neu'n sy'n cael trafferth gorffen llyfr.
...mwy |
| Cyhoeddi ymgyrch newydd 'Rhifau’n Cyfri' i fynd i'r afael â phroblemau rhifedd ledled Cymru |
|
Mae ymchwil newydd a ddangoswyd heddiw gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol – cyn ymgyrch rifedd fawr newydd – yn dangos nad yw 18% o oedolion Cymru yn hyderus ynghylch eu mathemateg, mae 25% yn dweud eu bod yn cael trafferth datrys symiau sydd â phwyntiau degol, mae 36% yn cael trafferth â ffracsiynau ac mae 31% yn cael trafferth datrys canrannau.
...mwy |
| Anrhydedd Blwyddyn Newydd i gyn staff yr Asiantaeth |
|
Ar 31 Rhagfyr 2005, dyfarnwyd yr OBE i gyn Gyfarwyddwr Gweithredol Cymru yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol, Rhiannedd Pratley, am wasanaeth i addysg yng Nghymru yn ystod ei chyfnod yn yr Asiantaeth.
...mwy |
| Tendr - Hyrwyddo Darllen ac Ysgrifennu yng Nghymru |
|
*Mae'r dyddiad cau ar gyfer y tendr hwn wedi mynd heibio*
Ar ran Llywodraeth Cynulliad Cymru, mae’r Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn cynnal ymgyrch fawr yn y cyfryngau yn ystod hydref 2006 wedi’i hanelu at blant 9 i 13 oed yng Nghymru.
...mwy |
| Lansio SSIE yr Heddlu yng Nghaerdydd |
|
Ar 25 Hydref 2005 lansiwyd SSIE yr Heddlu, set o ddeunyddiau a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol mewn partneriaeth â Heddlu De Cymru a Gwasanaeth Parade SSIE (Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill) Cyngor Dinas Caerdydd.
...mwy |
| Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i lansio ymgyrch rhifedd fawr yng Nghymru |
|
Heddiw, cyhoeddodd yr Asiantaeth ei chynllun i hyrwyddo sgiliau rhifedd i blant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru drwy ymgyrch fawr wedi’i harwain gan gyfres o hysbysebion teledu, radio, y wasg a'r cyfryngau. Caiff yr ymgyrch ddwyieithog ei lansio ddiwedd mis Ionawr 2006 a bydd yn rhedeg am bedair wythnos.
...mwy |
| Gweithdy cyfarwyddo athrawon ESOL - Diwrnod Llawn |
|
Hoffech chi fynychu’r gweithdai hyn? Mae LLU+ a NIACE yn cynnal ail gyfnod o weithdai cyfarwyddo i athrawon yn yr hydref ac mae croeso i chi os ydych yn athro neu reolydd ESOL. Mae’r holl weithdai yn ddi-dâl a bydd bob cynrychiolydd yn derbyn copi di-dâl o Deunyddiau dinasyddiaeth ar gyfer dysgwyr ESOL.
...mwy |
| Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol i rannu’r gwersi a ddysgwyd: Cynhadledd Lledaenu Cymru 2005 |
|
Ar 7 Hydref 2005, bydd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn cynnal Cynhadledd Cymru yr Asiantaeth 2005, a fydd yn canolbwyntio ar ledaenu arfer sy'n werth ei rannu mewn addysgu a datblygu sgiliau sylfaenol plant, pobl ifanc ac oedolion yng Nghymru.
...mwy |
| Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn yr Eisteddfod Genedlaethol |
Fe oedd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Felinheli eleni rhwng 30 Gorffennaf a 6 Awst 2005. ...mwy |
| Datganiad i'r Wasg: Marc Safon Sgiliau Sylfaenol yn gyfraniad effeithiol at addysgu |
Mae adroddiad arfarnu a gyhoeddwyd gan Estyn, yr arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, yn awgrymu bod Marc Safon yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol “yn cyfrannu mewn modd effeithiol at addysgu medrau sylfaenol mewn ysgolion cynradd ac uwchradd”. ...mwy |
| Darlithydd Coleg Iâl yn Cipio Un o Brif Wobrau Dysgu |
Gill Britten, darlithydd Sgiliau Sylfaenol sy'n gweithio yng Ngholeg Iâl ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth Gwobrau UK New Horizons ...mwy |
| Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn penodi Cyfarwyddwr Gweithredol newydd |
Mae’n bleser gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol gyhoeddi penodiad Toni Schiavone yn Gyfarwyddwr Gweithredol: Cymru. ...mwy |
| Y Cynulliad yn Neilltuo £40 miliwn ar gyfer ail Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Genedlaethol i Gymru |
|
22 Ebrill 2005
Mae’r Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, Jane Davidson heddiw wedi cyhoeddi y bydd £40 miliwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i gefnogi gweithgareddau a amlinellir yn Geiriau’n Galw - Rhifau’n Cyfri, ail gam y Strategaeth Sgiliau Sylfaenol Genedlaethol i Gymru sy’n darparu ar gyfer pob oedran.
...mwy |
| Castle Cement a Coleg Glannau Dyfrdwy yn derbyn yr Adduned Cyflogwyr |
Llongyfarchiadau i Castle Cement a Coleg Glannau Dyfrdwy wedi iddynt gael eu cyflwyno â Gwobr Sgiliau Sylfaenol - Adduned Cyflogwyr ar 10 Mawrth. ...mwy |
| Hysbysiad i'r Wasg: Cynhadledd SSIE yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol: yr Iaith Saesneg a Dinasyddiaeth |
Bydd Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes a Syr Bernard Crick, Cadeirydd y Bwrdd Ymgynghorol ar gyfer Dinasyddio ac Integreiddio yn annerch cynhadledd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ar Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill (SSIE) ar ddydd Mawrth 15 Mawrth. ...mwy |
| Disgyblion yn troi'n athrawon ar gyfer Diwrnod y Llyfr |
Bydd disgyblion Sgiliau Sylfaenol ledled Cymru yn troi’n athrawon am y diwrnod fel rhan o ddathliadau Diwrnod y Llyfr, Cymru – a gydlynir gan Gyngor Llyfrau Cymru – ar ddydd Iau 3 Mawrth 2005. ...mwy |
| Datganiad i'r Wasg: Cynhadledd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ar Allu Ariannol |
Amcangyfrifir bod un teulu o bob saith yng Nghymru yn cael trafferth yn gyson i gael dau ben llinyn ynghyd ac bod un teulu o bob pump yn cael anawsterau ariannol. Gallai anawsterau felly godi yn sgil sgiliau sylfaenol gwael gan fod un ym mhob pedwar o oedolion yn meddu ar sgiliau llythrennedd gwael ac mae tua hanner o oedolion yn cael anawsterau gyda rhifedd. ...mwy |
| Datganiad i'r Wasg: Gweinidog yn lansio gwobr newydd i ddysgwyr |
Bydd Jane Davidson, y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes, yn llongyfarch dysgwyr sy’n oedolion ledled Cymru mewn seremoni wobrwyo ddydd Mawrth 8fed Chwefror. ...mwy |
| Cynhadledd Blynyddoedd Cynnar yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol: Siarad gyda’n Gilydd |
Bydd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn cynnal eu Cynhadledd Blynyddoedd Cynnar ddydd Iau 3ydd Chwefror ar gyfer athrawon ac ymarferwyr blynyddoedd cynnar ledled Cymru i edrych ar ddatblygiad iaith yn y blynyddoedd cynnar. ...mwy |
| Gallwch wneud gwahaniaeth mawr trwy siarad a'ch plant |
|
Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn lansio ymgyrch hysbysebu ar y teledu yng Nghymru i annog rhieni i siarad â'u plant o'r dechrau
...mwy |
| Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn lansio gwefan Arsyllfa Sgiliau Sylfaenol Cymru |
Heddiw, lansiodd Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol Arsyllfa Sgiliau Sylfaenol Cymru, sef y wefan ddwyieithog gyntaf yn cynnwys gwybodaeth am ystod o ymagweddau i godi safonau llythrennedd, rhifedd ac iaith ymhlith cyflogeion yn gweithio mewn gwahanol alwedigaethau ledled Cymru. ...mwy |
| Cynhadledd Blynyddoedd Cynnar 2005 |
|
A ydych chi'n gweithio yn y sector blynyddoedd cynnar?
Os ydych, dewch ac ymuno â ni yng Nghaerdydd ar gyfer y Gynhadledd Blynyddoedd Cynnar 2005. Byddem yn cynnal y digwyddiad yn Neuadd Dewi Sant ar Ddydd Iau 3ydd Chwefror 2005.
...mwy |
| 'Pledge polishes basic skills' |
Erthygl yn y Guardian am gynllun Sgiliau Sylfaenol – Adduned Cyflogwyr. ...mwy |
| Datganiad i'r Wasg: Cwricwlwm craidd llythrennedd oedolion cyntaf erioed ar gyfer y Gymraeg |
Bydd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn lansio’r Cwricwlwm Craidd Llythrennedd Oedolion cyntaf erioed ar gyfer oedolion sy’n astudio’r Gymraeg yn ei stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddydd Mercher 4 Awst. ...mwy |
| Cystadleuaeth Cynllunio Gêm Fathemateg 2004 |
8 Gorffennaf 2004
Roedd disgyblion o ledled Cymru yng Nghaerdydd ddoe er mwyn arddangos gemau mathemateg y roeddynt wedi’u cynllunio eu hunain. Enillydd y wobr gyntaf o £1,500, plac a thaith o amgylch BBC Cymru oedd Ysgol Gyfun Aberaeron, Ceredigion. ...mwy |
| Derbyniad Sgilau Sylfaenol - Adduned Cyflogwyr |
Ar ddydd Llun 21 Mehefin bu cyflogwyr o bob cwr o Gymru sy’n helpu yn yr ymdrech i wella sgiliau llythrennedd a rhifedd eu gweithwyr yn cwrdd â EHB Y Dywysoges Frenhinol mewn digwyddiad ar y cyd a drefnir gan yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol a CBI Cymru. ...mwy |
| Cerdyn Treigladau |
Mae cerdyn treigladau newydd yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol yn helpu gyda'r tri treiglad mwyaf cyffredin. ...mwy |
| Cynhadledd Flynyddol Cymru 2004: Mynd i’r Afael ag Ymddieithrio |
Cafodd Cynhadledd Flynyddol Cymru Yr Asiantaeth Sgiliau Sylfaenol ei chynnal ar ddydd Iau 18 Mawrth i ystyried sut y gellir cynnwys pobl yn y broses ddysgu. ...mwy |