|
Nodir nodau’r Strategaeth Genedlaethol Sgiliau Sylfaenol i Gymru isod:
-
Dylai pob plentyn ifanc fod yn barod i ddysgu pan ddechreuant yr ysgol.
- Dylid lleihau nifer y plant sy’n gadael yr ysgol gynradd ag anawsterau wrth ddarllen, ysgrifennu a defnyddio rhif ymhellach.
-
Dylai llai o bobl ifanc adael addysg orfodol yn parhau i gael anawsterau gyda sgiliau sylfaenol.
-
Dylid lleihau nifer yr oedolion â sgiliau sylfaenol gwael yn sylweddol.
- Parhau i godi ymwybyddiaeth o sgiliau sylfaenol ar draws pob carfan o gymdeithas.
- Cynnwys y ddarpariaeth sgiliau sylfaenol fel rhan o ddysgu prif ffrwd.
Ein diffiniad o sgiliau sylfaenol yw:
"y gallu i ddarllen, ysgrifennu, a siarad yn Gymraeg (neu yn Saesneg), ac i ddefnyddio mathemateg ar lefel angenrheidiol i weithredu yn y gwaith ac mewn cymdeithas yn gyffredinol"
|